Ein cefndir
Syniad y Cynhyrchydd a’r Cyflwynydd Teledu, Russell Isaac oedd Livecast Cymru, fel cyfrwng a fyddai’n gallu diwallu anghenion y nifer cynyddol o fudiadau ym myd y celfyddydau, chwaraeon a busnes, sydd bellach yn cydnabod potensial arloesol a defnyddioldeb cysylltiadau gweddarlledu a llifddarlledu iddyn nhw.
"Mae hwn yn gyfnod cynhyrfus iawn ym myd gweddarlledu a llifddarlledu , gyda’r mudiadau lleaif hyd yn oed, yn barod i brofi’r posibiliadau anhygoel sy’n cael eu cynnig. Y gamp yw canolbwyntio ar pam dylai pobl ei ddefnyddio yn hytrach na chanolbwyntio ar wyddoniaeth y dechnoleg. Ein bwriad yw dangos mai rhywbeth cyffredin sydd ar gael i bawb yw hwn yn hytrach na thechnoleg ddrudfawr sydd ond yn fforddiadawy i fudiadau a chwmniau llewyrchus Llundain. Mae gweddarlledu a llifddarlledu ar stepen eich drws, ac yn barod i agor y drws hwnnw led y pen i unrhyw fudiad sydd am gysylltu a chynulleidfa ehangach."