Darpariaeth Unigryw
Nid asiantaeth farchnata, cysylltiadau cyhoeddus na gwefannol sy’ bellach yn arall gyfeirio yw Livecast Cymru. Busnes Livecast Cymru yw creu gweddarllediadau a llifddarllediadau byw. Trwy gyfrwng eu profiad helaeth, eu gwybodaeth eang a’u sgiliau amryddawn, wedi blynyddoedd o ddarlledu rhaglenni teledu byw ledled y byd, mae Livecast Cymru’n cynnig opsiynau cysyltu dibendraw i’ch mudiad neu i’ch cwmni chi.
- Hyd at 4 camera teledu Sony PDW-700 Clirlun, yn cael eu trin gan griw camera hyfforddedig a hynod brofiadol.
- Lloeren ddarlledu teledu symudol ar gerbyd cynhyrchu pwrpasol.
- Staff cynhyrchu gwybodus a phrofiadaol yno i ddarlledu’r cyfan yn fyw.
- Adnoddau golygu a throsleisio heb eu hail yn cynhyrchu fersiynau proffesiynol o’r digwyddiad, a’r rheiny ar gael via gwefan y cleient neu ar ffurf DVD.
- Serfwyr cynhwysedd uchel Livecast Cymru - yno i gefnogi’ch serfiwr chi, er mwyn trosglwyddo darllediad teledu o’r safon uchaf posib.