Daniel Broughton Uwch a Golygydd Ôl-gynhyrchu

Mae Dan wedi gweithio yn y byd darlledu ers pymtheg mlynedd ac wedi cyfrannu’n dechnegol ar gynyrchiadau’r BBC, Sianel4, TWI yn ogystal a phrif gwmniau darlledu Cymru – Boomerang , Tinopolis a nawr SMS. Fel golygydd mae e wedi gweithio ar raglenni dogfen, chwaraeon a chelfyddydol ac felly mae ganddo brofiad o ddefnyddio a meithrin ystod eang o dechnegau a dulliau ol-gynhyrchu.
Ers 2008 mae e’ wedi ymgymryd a’r cyfrifoldeb o reoli anghenion technegol grwp SMS sy’n cynnwys rhwydwaith golygu 5 cwmni, trefniadau uned allanol y grwp, peirianwaith digidol ac HD y grwp a chysylltiadau lloeren y cynhyrchiadau.