DAVID HUW WILLIAMS SENIOR CAMERAMAN
Ymunodd David a SMS yn 2005. Yn ystod ei gyfnod gyda’r cwmni mae e wedi ffilmio rhaglenni dogfen yn Ffrainc, Sweden, Georgia a’r Ariannin ac wedi gweithio ar gystadleuthau chwaraeon megis Cwpan Rygbi’r Byd, Cynghrair Peldroed y Pencamwyr, Criced 20/20, Taith y Llewod a Chwpan Heineken.
Cyn ymuno a SMS, fe weithiodd gyda sawl cwmni megis y BBC, ITV, ESPN ac S4C ar nifer o gynhyrchiadau gwahanol o dvd’s corfforaethol i ddrama a phrosiectau ffeithiol aml-gyfrwng.
Mae e’n syrffiwr, sgiwr a dringwr brwd – sydd wedi ei alluogi I sicrhau deunydd amhrisiadwy mewn sefyllfaoedd anodd gyda phob math o gamerau ac offer cynhyrchu.