RUSSELL ISAAC MANAGING DIRECTOR
Cafodd ei eni a’i fagu yn y Rhondda Fach gan gychwyn ei yrfa ddarleddu gyda HTV Cymru fel ‘rhedwr’ ym 1977. Ar ol treulio bwlyddyn yn yr Ariannin yn gwneud ymchwil MA, fe ymunodd a staff newyddion HTV ym 1980 fel gohebydd cyffredinol. 
Ers hynny mae e wedi gweithio mewn sawl rol i nifer o sefydliadau ym Mhrydain megis y BBC, ITN, Sianel 4 /S4C fel gohebydd a chyflwynydd newyddion teledu a radio; cynhyrchydd/cyflwynydd materion cyfoes a dogfennau ac uwch-gynhyrchydd a golygydd cyfresi chwaraeon. O Ynysoedd y Falkands i Afghanistan, o Ryfel y Gwlff i Chwyldro’r Zapatistiaid ym Mecsico, mae Russell wedi cynhyrchu adroddiadau o ddwsin a mwy o ardaloedd anghydfod y byd.

Mewn dros 30 o wledydd mae e wedi gweithredu fel ymgynhorydd darlledu gan hyfforddi staff cynhyrchu a rheolwyr rhai o rwydweithiau teledu mwyaf Affrica, y Dwyrain Canol ac Asia – gan gynnwys prosiectau I’r OSCE, Al Jazeera a’r Swyddfa Dramor.
Sefydlwyd Sports Media Services fel cam arloesol yn y byd darlledu annibynol i gynnig ystod eang o wasanaethau i sefydliadau a chwmniau o bob math o gefndiroedd. Gan ddefnyddio adnoddau dynol a thechnolegol SMS, sefydlwyd Livecast Cymru ganddo gyda’r bwriad o gynnig y cyfle i fusnesau llai eu maint i elwa ar y posibiliadau o weddarlledu a llifddarlledu am bris rhesymol.