Keith Williams Datblygu Busnes a'r Cyfarwyddwr Marchnata
Mae Keith wedi bod yn Uwch Gyfarwyddwr yn y sectorau datblygu a marchnata ers dros 25 mlynedd. Yng Nghymru, fe yw Rheolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Lovell cyf., Macob Construction cyf., ac ar lefel Brydeinig, mae'n gyfarwyddwr i Vinci Plc, Cwmni Conygar Investment Plc, a Gwasanaeth Marchnata'r Cooperative.
Mae Keith yn meddu ar brofiad rheoli helaeth, ac mae'n arbenigo mewn datblygu busnes a marchnata yn y sector preifat a chyhoeddus.
Er enghraifft, bu Keith yn gyfrifol am fenter ar y cyd rhwng Vinci PLC a MEPC, o dan Gytundeb Menter Ariannu Preifat i greu Sgwâr Callaghan a Rhodfa Lloyd George yng Nghaerdydd, Storfa Golygfeydd Y Cwmni Opera Brenhinol (Covent Garden) yn Aberdâr, a phrosiect enfawr adfywiad trefol yn Sir Benfro mewn cydweithrediad â'r Cynulliad, Cyngor Sir Benfro ac Awdurdod Porthladd Y Crown ac Aberdaugleddau. Mae Keith hefyd wedi bod yn ymgynghorydd datblygu ac ariannu i'r Morfield Group, a Development Securities Plc.
Mae arbenigedd Keith ym myd busnes a marchnata'n ased gwerthfawr i gwmni dibynadwy sydd â phrofiad helaeth o weithio ym myd cynhyrchu teledu, dros flynyddoedd lawer.