Gwerth Newydd i’ch Digwyddiad
Mae gweddarlledu a llifddarlledu byw yn cynnig cyfle unigryw i chi greu ffrwd incwm newydd. Os oes ‘na gynulleidfa na all ddod i’ch digwyddiad, yna gallwch roi cyfle I’r gynulleidfa honno “fod yno” drwy osod sustem talu diogel ar wefan y cynhaliwr. Gall y cefnogwyr wedyn, danysgrifio a thalu i wylio digwyddiad yn fyw. Dyma sector sy’n datblygu’n gyflym iawn, sy’n gynyddol gynhyrchiol er mwyn creu incwm, ac mae ar gael i’r rhai sydd a gweledigaeth.
Y Celfyddydau.
O berfformiadau amatur i gwmniau proffesiynol, mae Livecast Cymru'n gallu arddangos eich talentau yn fyw, gyda safon gweddarlledu teledu, ac am bris fforddadwy
Busnes.
Lawnsiadau Cynnyrch, Datganiadau Pwysig, Cyfarfodydd Cwmni Blynyddol, Sioeau Masnach, B-B a B-C Arddangosfeydd, Seminarau, Cynhadleddau Hyfforddi a chyfleoedd am gyhoeddusrwydd – gall y rhain i gyd elwa trwy ddefnyddio technoleg arloesol ac effeithiol gweddarlledu a llifddarlledu. Peidiwch a chyfyngu eich syniadau i bapur neu gyfarfod yn unig - gweddarlledwch eich neges a'ch proffil i Gymru ac i'r byd am bris rhesymol.
Chwaraeon.
Mae gwe-ddarlledu'n cynnig y cyfle i gefnogwyr yng Nghymru a thu hwnt i fwynhau eich digwyddiad chi wrth iddo ddigwydd. Mae pob math o glybiau a chymdeithasau'n gallu elwa o'r gwasanaeth, megis cystadleuthau bocsio, peldroed 5-bob-ochr, gemau hoci, dartiau ..... gyda gwefannau'r cymdeithasau'n cynnal y deunydd eu hunain yn ol y galw.
Y Sector Cyhoeddus
Cyhoeddiadau pwysig, digwyddiadau cymunedol
Lleol