01656 776 030



 

Chwaraeon

Mae gwe-ddarlledu'n cynnig y cyfle i gefnogwyr yng Nghymru a thu hwnt i fwynhau eich digwyddiad chi wrth iddo ddigwydd. Mae pob math o glybiau a chymdeithasau'n gallu elwa o'r gwasanaeth, megis cystadleuthau bocsio, peldroed 5-bob-ochr, gemau hoci, dartiau ..... gyda gwefannau'r cymdeithasau'n cynnal y deunydd eu hunain yn ol y galw.

 

Busnes

Cyfarfodydd, Arddangosfeydd, Lawnsiadau Cynnyrch, Datganiadau Cwmniol, Seminarau, Hyfforddiant,Cyfleoedd Hyrwyddo a Chyhoeddusrwydd - fe allai busnesau fanteisio ar y dechnoleg a gwerthoedd darlledu Livecast Cymru i hyrwyddo'u deunydd ac i arddangos eu cynnyrch i gynulleidfaoedd dethol neu eang. Peidiwch a chyfyngu eich syniadau i bapur neu gyfarfod yn unig - gwe-ddarlledwch eich neges a'ch proffil i Gymru ac i'r byd am bris rhesymol.

 

Y Celfyddydau

O berfformiadau amatur i gwmniau proffesiynol, mae Livecast Cymru'n gallu arddangos eich talentau ar lwyfan eang - dramau, cyngherddau, gwyliau neu gystadleuthau - dangoswch eich doniau ar y wefan.

 

Cynhyrchiadau Diweddar

Dyma rai o gynhyrchiadau diweddar Livecast Cymru....

 

Rhanbarthol

Mae Livecast Cymru wedi’i sefydlu'n benodol i gynnig gwe-ddarlediadau o'r safon uchaf trwy Gymru gyfan, am brisiau rhesymol - nid am y symiau uchel sy'n cael eu codi yn Llundain.  

 

digwyddiadau

Os oes ganddoch chi gynulleidfa mewn golwg ar gyfer eich digwyddiad - gallech arbed arian sylweddol trwy we-ddarlledu.Yn hytrach na gorfodi eich cynulleidfa darged i ddod atoch chi, danfonwch eich neges yn fyw, neu wedi ei recordio, atyn nhw. Trwy ddefnyddio Livecast Cymru gallwch gyrraedd y bobl rheiny sy'n bwysig i chi.